R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
1. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ofal iechyd cymunedol yng Nghymru? OAQ(4)0619(HSS)
2. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella’r broses o reoleiddio’r gwaith o arolygu gofal cymdeithasol yng Nghymru? OAQ(4)0605(HSS)
3. Elin Jones (Ceredigion): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y canran o bobl gymwys sydd cael brechiad yn erbyn yr eryr? OAQ(4)0615(HSS)W
4. David Rees (Aberafan): Pa gamau sy'n cael eu cymryd i leihau amseroedd aros ar gyfer asesiadau a thriniaeth iechyd meddwl yng Nghymru? OAQ(4)0618(HSS)
5. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlansys yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(4)0609(HSS)
6. Altaf Hussein (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i wella gwasanaethau gofal cynradd yng Nghymru? OAQ(4)0616(HSS)
7. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pa gynnydd a wnaed o ran uno cyllidebau gofal ac iechyd ers 2011? OAQ(4)0610(HSS)W
8. Janet Haworth (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am arferion gwaith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru? OAQ(4)0614(HSS)
9. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effeithiolrwydd polisïau sy'n anelu at wneud gwasanaethau’r GIG yn hygyrch i bobl ag anableddau? OAQ(4)0613(HSS)
10. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lywodraethiant byrddau iechyd yng Nghymru? OAQ(4)0608(HSS)
11. Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Law yn Llaw at Iechyd: Rhaglen De Cymru? OAQ(4)0606(HSS)
12. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y strategaeth ystadau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OAQ(4)0611(HSS)W
13. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y pwysau sydd ar y sector gofal? OAQ(4)0612(HSS)W
14. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am raglenni brechu yng Nghymru? OAQ(4)0607(HSS)
15. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y manteision i iechyd y cyhoedd sy'n deillio o gydweithio rhwng y sectorau iechyd a chwaraeon? OAQ(4)0620(HSS)
Gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol
1. Mick Antoniw (Pontypridd): Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal gydag aelodau o'r proffesiwn cyfreithiol mewn perthynas ag adrannau 70 i 76 o'r papur gorchymyn ar Fil Cymru o fis Mawrth 2014 sy'n ymwneud â chreu cyfrifoldebau cyllidol newydd? OAQ(4)0080(CG)
Gofyn i Gomisiwn y Cynulliad
Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.